![]() ![]() |
Gwybodaeth ddiduedd |
|
Prif tudalen
|
Beth yw traveline cymru? Gwasanaeth sy'n darparu amserlenni a gwybodaeth ddiduedd i gynllunio taith am yr holl wasanaethau cludiant cyhoeddus - bysiau, coetsys, trenau a fferiau ac awyrennau yng Nghymru, a trenau a coetsys yn Lloegr a'r Alban. Sut alla'i gysylltu a traveline cymru dros y ffon ? Gallwch ffonio traveline o unrhew le ar 0870 608 2 608. Codir am alwadau ar y gyfradd genedlaethol - felly gall galwad arferol yn para am 2 funed gostio rhwng 5c ar adegau allfrig i 16c ar adeg frig, yn dibynnu ar y gwasanaeth ffon a ddefnyddir. Gellir ffonio'r rhif o'r rhan fwyaf o wledydd tramor hefyd, +44 870 608 2 608. Mae'r gwasanaeth a'r gael yng Nghymru rhwng 7am ac 10pm bob dydd (heblaw 25 a 26 Rhagfyr ac 1 Ionawr). Syllwch y gellir recordio galwadau er mwyn hyfforddi a dadansoddi. Ai traveline cymru yw'r gwasanaeth gorau i'w ddefnyddio bob tro ? Argymhellwn unrhyw un sydd am wybodaeth am wasanaethau rheilffordd yn unig i ddefnyddio National Rail Enquiry Service (NRES) ar 08457 48 49 50 (Minicom : 0845 60 50 600) gan fod ganddynt fanylion ynghylch costau a manylion i'r funud ynghylch newidiadau yn y gwasanaeth. Yn yr un modd, argymhellwn y rheiny sydd am wybodaeth am deithiau coets yn unig i ofyn i National Express ar 08705 80 80 80 neu Scottish Citylink ar 08705 50 50 50. A all traveline cymru ateb cwestiynau ar e-bost ? Mae'n ddrwg gennym, ond nid yw'n gwasanaeth wedi'i drefnu i ateb ymholiadau unigol ar e-bost. Byddwch gystal a defnyddio'r cynllunydd teithio ar y we neu cysylltwch a traveline cymru ar y ffon. Pwy sy'n rhedeg traveline cymru ? PTI Cymru Cyf sy'n rhedeg traveline cymru - cwmni sydd ddim am wneud elw sydd yn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a cwmniau bysiau. Maent yn casglu amserlenni oddi wrth awdurdodau lleol a cwmniau bysiau ac yn trefnu'r wybodaeth hyn ar gyfer y cyfan we a canolfannau galw traveline cymru. Pwy sy'n talu am traveline cymru? Mae traveline cymru yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol a cwmniau bysiau. Allai'i alw canolfan alw benodol traveline cymru ? Gallwch. Os ydych am alw canolfan alw De Ddwyrain Cymru, yna teipiwch 51 cyn gynted ag y clywch y neges groesawu'n dechrau. Ar gyfer De Orllewin Cymru, teipiwch 52. Ar gyfer Gogledd a Chanolbarth Cymru, defnyddiwch 53 neu teipiwch 54 os hoffech holi yn Gymraeg.
|